Y Fenni

Y Fenni
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,078 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iÖstringen, Sarno, Canton Beaupréau Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,032.5 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Wysg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8331°N 3.0172°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000775 Edit this on Wikidata
Cod OSSO295145 Edit this on Wikidata
Cod postNP7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni[1][2] (Saesneg: Abergavenny). Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.

Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne